Add parallel Print Page Options

22 Ha wŷr, frodyr, a thadau, gwrandewch fy amddiffyn wrthych yr awron. (A phan glywsant mai yn Hebraeg yr oedd efe yn llefaru wrthynt, hwy a roesant iddo osteg gwell: ac efe a ddywedodd,) Gŵr wyf fi yn wir o Iddew, yr hwn a aned yn Nharsus yn Cilicia, ac wedi fy meithrin yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel, ac wedi fy athrawiaethu yn ôl manylaf gyfraith y tadau, yn dwyn sêl i Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddiw. A mi a erlidiais y ffordd hon hyd angau, gan rwymo a dodi yng ngharchar wŷr a gwragedd hefyd. Megis ag y mae’r archoffeiriad yn dyst i mi, a’r holl henaduriaeth; gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr, ac yr euthum i Ddamascus, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd, yn rhwym i Jerwsalem, i’w cosbi. Eithr digwyddodd, a myfi yn myned, ac yn nesáu at Ddamascus, ynghylch hanner dydd, yn ddisymwth i fawr oleuni o’r nef ddisgleirio o’m hamgylch. A mi a syrthiais ar y ddaear, ac a glywais lais yn dywedyd wrthyf, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid? A minnau a atebais, Pwy wyt ti, O Arglwydd? Yntau a ddywedodd wrthyf, Myfi yw Iesu o Nasareth, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. Hefyd y rhai oedd gyda myfi a welsant y goleuni yn ddiau, ac a ofnasant; ond ni chlywsant hwy lais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf. 10 Ac myfi a ddywedais, Beth a wnaf, O Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cyfod, a dos i Ddamascus; ac yno y dywedir i ti bob peth a’r a ordeiniwyd i ti eu gwneuthur. 11 A phryd nad oeddwn yn gweled gan ogoniant y goleuni hwnnw, a’r rhai oedd gyda mi yn fy nhywys erbyn fy llaw, myfi a ddeuthum i Ddamascus. 12 Ac un Ananeias, gŵr defosiynol yn ôl y ddeddf, ac iddo air da gan yr Iddewon oll a’r oeddynt yn preswylio yno, 13 A ddaeth ataf, ac a safodd gerllaw, ac a ddywedodd wrthyf, Y brawd Saul, cymer dy olwg. Ac mi a edrychais arno yn yr awr honno. 14 Ac efe a ddywedodd, Duw ein tadau ni a’th ragordeiniodd di i wybod ei ewyllys ef, ac i weled y Cyfiawn hwnnw, ac i glywed lleferydd ei enau ef. 15 Canys ti a fyddi dyst iddo wrth bob dyn, o’r pethau a welaist ac a glywaist. 16 Ac yr awron beth yr wyt ti yn ei aros? cyfod, bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar enw yr Arglwydd. 17 A darfu, wedi i mi ddyfod yn fy ôl i Jerwsalem, fel yr oeddwn yn gweddïo yn y deml, i mi syrthio mewn llewyg; 18 A’i weled ef yn dywedyd wrthyf, Brysia, a dos ar frys allan o Jerwsalem: oherwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth amdanaf fi. 19 A minnau a ddywedais, O Arglwydd, hwy a wyddant fy mod i yn carcharu, ac yn baeddu ym mhob synagog, y rhai a gredent ynot ti: 20 A phan dywalltwyd gwaed Steffan dy ferthyr di, yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynio i’w ladd ef, ac yn cadw dillad y rhai a’i lladdent ef. 21 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dos ymaith: canys mi a’th anfonaf ymhell at y Cenhedloedd. 22 A hwy a’i gwrandawsant ef hyd y gair hwn; a hwy a godasant eu llef, ac a ddywedasant, Ymaith â’r cyfryw un oddi ar y ddaear: canys nid cymwys ei fod ef yn fyw. 23 Ac fel yr oeddynt yn llefain, ac yn bwrw eu dillad, ac yn taflu llwch i’r awyr, 24 Y pen‐capten a orchmynnodd ei ddwyn ef i’r castell, gan beri ei holi ef trwy fflangellau; fel y gallai wybod am ba achos yr oeddynt yn llefain arno felly. 25 Ac fel yr oeddynt yn ei rwymo ef â chareiau, dywedodd Paul wrth y canwriad yr hwn oedd yn sefyll gerllaw, Ai rhydd i chwi fflangellu gŵr o Rufeiniad, ac heb ei gondemnio hefyd? 26 A phan glybu’r canwriad, efe a aeth ac a fynegodd i’r pen‐capten, gan ddywedyd, Edrych beth yr wyt yn ei wneuthur: canys Rhufeiniad yw’r dyn hwn. 27 A’r pen‐capten a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Dywed i mi, ai Rhufeiniad wyt ti? Ac efe a ddywedodd, Ie. 28 A’r pen‐capten a atebodd, Â swm mawr y cefais i’r ddinasfraint hon. Eithr Paul a ddywedodd, A minnau a anwyd yn freiniol. 29 Yn ebrwydd gan hynny yr ymadawodd oddi wrtho y rhai oedd ar fedr ei holi ef: a’r pen‐capten hefyd a ofnodd, pan wybu ei fod ef yn Rhufeiniad, ac oblegid darfod iddo ei rwymo ef. 30 A thrannoeth, ac efe yn ewyllysio gwybod hysbysrwydd am ba beth y cyhuddid ef gan yr Iddewon, efe a’i gollyngodd ef o’r rhwymau, ac a archodd i’r archoffeiriaid a’u cyngor oll ddyfod yno; ac efe a ddug Paul i waered, ac a’i gosododd ger eu bron hwy.